Croeso i Ysgol Ardudwy
Dysgu gyda’n gilydd ar gyfer dyfodol gwell
Mae Ysgol Ardudwy’n ysgol gymunedol ddwyieithog 11-16 oed. Lleoli’r yr ysgol yn Harlech ac mae’r dalgylch yn ymestyn o’r Bermo ar hyd yr arfordir hyd at Finffordd ac yn cynnwys y pentrefi mewndirol Llanfrothen a Chroesor.
Mae Ysgol Ardudwy’n ysgol hapus, gartrefol a chefnogol. Ein nod yw darparu addysg o’r radd flaenaf a datblygu pob disgybl yn berson cyflawn. Cynigiwn i bob disgybl beth bynnag eu gallu a chefndir ymdeimlad o werth a hyder yn eu hunain.
Anelwn i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial unigol. Sicrheir cwricwlwm addas, eang a heriol i bawb gan geisio rhoi pob cymorth iddynt lwyddo. Trwy amrywiol gyfleoedd a gweithgareddau ehangach cynigir y modd i ddatblygu’r person cyflawn.
Os ydych yn dymuno derbyn rhagor o wybodaeth am yr ysgol neu eisiau ymweld â ni yna peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni.
Recent Comments