Cyfathrebu â rhieni
ASESU AC ADRODD BLYNYDDOEDD 7 – 9
Seilier yr adrodd i rieni ar dargedau a osodir bob blwyddyn. Gosodir y targedau dechreuol ym Mlwyddyn 7 gan ystyried canlyniadau blaenorol y disgybl wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd, a’r profion deallusrwydd llythrennedd a roddir ar ddechrau Blwyddyn 7 yn Ysgol Ardudwy, ac adnabyddiaeth yr athrawon o’r disgyblion yn ystod misoedd cyntaf Blwyddyn 7. Bydd cyfarfod arbennig i rieni a disgyblion Blwyddyn 7 ddiwedd Tachwedd pan gyflwynir y targedau. Yna bydd adrodd i rieni ar y perfformiad yn erbyn y targedau yn digwydd bob hanner tymor gydag adroddiad llawn ym mis Gorffennaf.
Ar ddechrau Blynyddoedd 8 a 9 gosodir targedau newydd. Bydd adroddiad cynnydd interim, sef un dudalen grynodol yn cael ei gyhoeddi bob hanner tymor gydag adroddiad llawn manylach gyda thudalen ar gyfer pob pwnc unwaith y flwyddyn.
Os bydd disgybl yn gwneud cynnydd rhagorol ac wedi cyrraedd ei darged cyn diwedd y flwyddyn bydd targed newydd yn cael ei osod bryd hynny.
Dylai disgybl wneud cynnydd sydd yn cyfateb i o leiaf hanner lefel gyrhaeddiad bob blwyddyn.
Dyddiadau Adrodd i Rieni | ||||||
Blwyddyn 7 |
27.11.18 (Cyfarfod) |
22.02.19 | 12.04.19 | 24.05.19 |
10.07.19 (Llawn) |
|
Blwyddyn 8 | 26.10.18 | 19.12.18 | 22.02.19 |
12.04.19
|
14.06.19 (Llawn) |
|
Blwyddyn 9 | 26.10.18 |
19.12.18
|
22.02.19
|
12.04.19 (Llawn) |
18.07.19 Lefelau Diwedd Cyfnod Allweddol 3 |
Dyma safonau Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9) | |
Lefel 8 | Llawer uwch na’r lefel ddisgwyliedig |
Lefel 7 | Uwch na’r lefel ddisgwyliedig |
Lefel 6 | Wedi cyrraedd y lefel ddisgwyliedig |
Lefel 5 | |
Lefel 4 | Yn gweithio tuag at y lefel ddisgwyliedig |
Lefel 3 | |
Lefel 2 | |
Lefel 1 |