Cartref > Disgyblion > Asesu ac Arholiadau

Asesu ac Arholiadau


Cymwysterau ac Arholiadau Allanol 

Yng nghyfnod allweddol 4 bydd y disgyblion yn dilyn amrywiaeth eang o bynciau gorfodol a dewisol fydd yn arwain at gymwysterau ar ddiwedd Blwyddyn 11. 

Mae mwyafrif o’r cyrsiau y byddwn yn ei gynnig yn gyrsiau TGAU gyda rhai cyrsiau yn gymwysterau galwedigaethol sydd yn arwain at gymhwyster BTEC. 

Mae pob cwrs sydd yn cael ei redeg yn yr ysgol yn gyrsiau Lefel 1 neu Lefel 2, gyda chwrs Lefel 2 yn rhoi gradd C neu uwch, mae’r amrediad graddau wedi crynhoi isod:

TGAU  Lefel 2 

A* - Rhagoriaeth*
A  - Rhagoriaeth
B - Teilyngdod
C - Llwyddiant

TGAU Lefel 1    

D - Llwyddiant Lefel 1
E - Llwyddiant Lefel 1
F - Llwyddiant Lefel 1
G - Llwyddiant Lefel 1

Cymwysterau Craidd TGAU 

  • Cymraeg Iaith 
  • Cymraeg Llenyddiaeth
  • Saesneg Iaith
  • Saesneg Llenyddiaeth 
  • Mathemateg
  • Mathemateg – Rhifedd 
  • Gwyddoniaeth (Dwbl – Bioleg, Cemeg a Ffiseg neu Sengl)
  • Tystysgrif Her    

Cymwysterau Dewisol TGAU     

  • Addysg Gorfforol 
  • Bwyd a Maeth 
  • Celf
  • Cerdd
  • Daearyddiaeth
  • Dylino Cynnyrch
  • Gofal Plant
  • Hanes
  • Ffrangeg
  • Technoleg Gwybodaeth 

BTEC/Galwedigaethol

  • Adeiladwaith 
  • Busnes 
  • Chwaraeon
  • Trin Gwallt
  • Ffotograffiaeth
  • Peirianneg
  • Cyfryngau **
  • Amaethyddiaeth**

** Mae Ysgol Ardudwy ‘n rhan o Gonsortiwm 14-16 Dwyfor a cynigir y pynciau hyn yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Glynllifon gyda thair ysgol uwchradd Dwyfor.