Cartref > Ysgol > Gwybodaeth > Gwisg Ysgol
Gwisg Ysgol
Mae’r rheolau a ganlyn ynglŷn â gwisg ysgol wedi eu cadarnhau gan y Corff Llywodraethol a mabwysiadwyd hwy er mwyn meithrin balchder yn yr ysgol a’r ymdeimlad o berthyn iddi a sicrhau safon uchel o ymarweddiad. Disgwylir i’r disgyblion wisgo’r wisg swyddogol bob amser. Dylai bod enw’r disgybl ar bob dilledyn.
Eitemau gyda Logo Ysgol Ardudwy
Crys Polo glas
Crys Chwys glas tywyll
Eitemau eraill
Trowsus du neu Sgert ddu (hyd y penglin)
Sanau tywyll/gwyn neu deits du
Esgidiau du (sodlau isel)
Addysg Gorfforol
Siorts du
Esgidiau ymarfer
Crys Polo gwyn
Gwisg nofio
Tywel
Crys rygbi/pêl-droed
Esgidiau pêl-droed
Canllawiau pellach er mwyn sicrhau unffurfiaeth
• Ni chaniateir gwisgo crys chwys ar ei ben ei hun
• Rhaid gwisgo trowsus plaen du sydd wedi’i deilwra i’r ffêr: ni chaniateir jîns, legins na jegins
• Esgidiau du unlliw gyda sodlau isel, dim trainers.
• Caniateir i ddisgyblion wisgo un pâr o stydiau clust, ni chaniateir tyllu eraill a ni chaniateir gwisgo breichledi na chadwyni.
• Disgwylir i ddisgyblion gydymffurfio â disgwyliadau ynglŷn â’u hedrychiad
Mae’r wisg ysgol yn cael ei harchebu dros y we gan gyflenwyr swyddogol, “My Clothing” ac mae’r wefan yn manylu ar y prisiau.
Mae rhieni disgyblion sydd yn cael cinio am ddim yn gymwys i dderbyn grant o tua £105 ar ddechrau Blwyddyn 7 at brynu gwisg ysgol. Rhaid i rieni wneud cais i Gyngor Gwynedd i dderbyn y grant hwn.
ANGHENION SYLFAENOL AR GYFER DYSGU
Bydd llyfrau ysgrifennu a gwerslyfrau yn cael eu darparu ond bydd angen y canlynol ar bob disgybl :
- beiro (inc du neu glas)
- pren mesur
- onglydd
- pensil
- pensiliau lliw
- cwmpawd
- rhwbiwr
- cas pensiliau
- Cyfrifiannell (posib archebu trwy’r ysgol)