Cartref > Rhieni > Cyfeillion

Cyfeillion


Cyfeillion yr Ysgol yw’r enw a roddir ar Gymdeithas Rieni Ysgol Ardudwy a rhoddir gwahoddiad i bob rhiant/gwarcheidwad i’r cyfarfodydd er mwyn gwneud cyfraniad i’r gweithgareddau maent yn cynllunio. 

Byddwn yn hysbysu'r holl rieni pan fo cyfarfod ac mae tudalen penodol wedi ei neilltuo iddynt ar safle we'r ysgol. Yn ogystal mae tudalen facebook Cyfeillion yr Ysgol y byddem yn annog pob rhiant i’w 'hoffi'.

Yn ogystal â threfnu nosweithiau cymdeithasol, mae’r Cyfeillion yn trefnu gweithgareddau i godi arian i Gronfa’r Ysgol. Mae llwyddiant y cyfeillion yn ddibynnol ar eich cefnogaeth chi, y disgyblion yw’r rhai sydd yn elwa o’r holl arian sydd yn cael ei godi ganddynt. 

Cadeirydd y Gymdeithas: Christina Braithwaite 

Ysgrifennydd: Rhian Corps

Trysorydd: Charlie Roberts