Cartref > Ysgol > Cwricwlwm

Cwricwlwm


Rydym yn darparu cwricwlwm sydd yn ceisio addysgu’r person cyfan yn ogystal ag addysgu mewn ffordd academaidd ac ymarferol.  Ymdrechwn i sicrhau bod ein cwricwlwm yn briodol i anghenion y disgyblion gan ddefnyddio dulliau addysgu sy’n datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu, deall cysyniadau a meithrin gwybodaeth a sgiliau.  Nod yr addysgu yw paratoi disgyblion fel y byddant yn llwyddo mewn cymdeithas, addysg uwch, y byd gwaith, a phrofiadau bywyd oedolion.

Mae amserlen yr ysgol wedi ei dorri yn 30 gwers yr wythnos gyda phob un yn 50 munud o hyd.

Sgiliau Trawsysgol

Mae’r sgiliau sylfaenol o Lythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol wedi ei gynllunio fel eu bod yn cael ei datblygu ar draws y cwricwlwm yn CA3 a 4 mewn dull sydd yn atgyfnerthu sgiliau’r pwnc.

Gweithgareddau allgyrsiol

Prif flaenoriaeth ysgol yw datblygu'r ochr academaidd ond cynigir amrediad eang o glybiau, gweithgareddau a phrofiadau gwerthfawr i’r disgyblion yn ychwanegol er mwyn eu datblygu yn llawn, megis:

  • Chwaraeon - Gymnasteg, Pêl-rwyd, Pêl-droed, Rygbi, Badminton, Gweithgareddau Chwaraeon 5 x 60;
  • Corau Ysgol;
  • Yr Urdd - cystadlaethau, Eisteddfod;
  • Cystadlaethau - Cystadlaethau Coginio, Cystadlaethau Ysgrifennu;
  • Clybiau
  • Cyngor yr Ysgol;
  • Gwobr Dug Caeredin;
  • Ymweliadau a Theithiau - Ymweliadau i Theatrau, Teithiau i Ddigwyddiadau Chwaraeon, Teithiau Tramor, Teithiau Addysgiadol;
  • Cyngherddau ac Eisteddfod Ysgol;
  • Gweithdai yn yr Ysgol - Menter, Gwyddoniaeth;

Trwy ymgymryd ar gweithgareddau allgyrsiol sydd ar gael yn yr ysgol bydd y disgyblion yn derbyn profiadau bythgofiadwy ond hefyd yn cyfoethogi eu haddysg bersonol a chymdeithasol.

Clwb Gwaith Cartref

Mae Clwb Gwaith Cartref yno bob prynhawn Llun i ddydd Iau gydag aelod o staff i gynorthwyo’r disgyblion.