Cartref > Ysgol > Gwybodaeth > Pontio Cynradd / Uwchradd

Pontio Cynradd / Uwchradd


Cyswllt gydag Ysgolion Cynradd

Er mwyn sicrhau fod disgyblion yn trosglwyddo yn effeithiol o’r Cynradd i’r Uwchradd mae’n bwysig cydweithio yn effeithiol gyda hwy. Byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod cyd-weithio a byddwn yn ymweld ar Ysgolion Cynradd fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod Tymor yr Hydref byddwn yn gwahodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 i’r Ysgol i gymryd rhan mewn amrywiol dasgau o fewn gweithdai pynciol. Ymhellach i hyn byddwn yn cynnal Noson Agored yn Nhachwedd, lle bydd gwahoddiad i ddisgyblion Blwyddyn 5, 6 a 7 i’r Ysgol i drafod gyda staff a gweld yr Ysgol.

Yna yn Nhymor yr Haf bydd disgyblion Blwyddyn 6 sydd yn trosglwyddo yn treulio tri diwrnod yn yr ysgol, lle byddent yn cael eu rhoi o fewn ei dosbarthiadau cofrestru a chael eu cyflwyno i’r tiwtor dosbarth, ond hefyd yn cael blas ar nifer o bynciau a chanfod eu ffordd o amgylch yr ysgol. Byddwn hefyd yn trefnu cyfarfodydd gyda’r rhieni yn Nhymor yr Haf fel modd o rannu gwybodaeth a rhoi cyfle i rieni a disgyblion holi cwestiynau a chodi unrhyw bryderon.